We provide practical help with planning a funeral
Mae delio â phrofedigaeth bob amser yn anodd. Gall ceisio cynllunio angladd wrth wneud hynny fod yn anoddach fyth. Mae Pritchard a Griffiths Cyf yn un o drefnwyr angladdau mwyaf profiadol Porthmadog, ac rydym yma i helpu.
Cefnogaeth pan fyddwch ei angen fwyaf
Cefnogaeth ymarferol
Cyngor proffesiynol, defnyddiol
Atebion i'ch cwestiynau
Beth i'w wneud pan fydd marwolaeth yn digwydd
Mewn ysbyty
Bydd y staff nyrsio yn cysylltu â'r perthynas agosaf cyn gynted â phosibl a bydd meddyg yn rhoi'r dystysgrif marwolaeth.
Mewn cartref nyrsio neu breswyl
Mae'r broses yma fel arfer yn debyg iawn i ysbyty. Mae'n well siarad â'r cartref y mae eich perthynas yn byw ynddo i wneud yn siŵr bod unrhyw ddymuniadau arbennig yn cael eu cydnabod.
Yn y cartref
Os disgwylir y farwolaeth, cysylltwch â'ch meddygfa cyn gynted ag sy'n rhesymol bosibl a bydd yn trefnu ymweliad i roi tystysgrif marwolaeth. Os yw’r farwolaeth yn sydyn neu’n annisgwyl, ffonio ambiwlans a’r heddlu yw’r peth gorau i’w wneud. Efallai y bydd angen post-mortem cyn y gellir trefnu angladd.
Cofrestru'r farwolaeth
Mae angen cofrestru marwolaeth yn swyddfa'r cofrestrydd lleol o fewn 5 diwrnod. Mae’r farwolaeth fel arfer yn cael ei chofrestru gan berthynas ond gall perchennog y fangre lle digwyddodd y farwolaeth neu’r sawl sy’n trefnu’r angladd wneud hyn hefyd.
Beth bynnag yw'r sefyllfa, rydym yma 24/7 i drefnu cludiant a gofal i'r ymadawedig.
Cynllunio angladd
Ar ôl marwolaeth, gall deimlo bod pethau'n symud yn gyflym iawn ac fel bod llawer o bwysau i sicrhau bod popeth yn cael ei drefnu yn y ffordd gywir. Mae ein trefnwyr angladdau gofalgar yma i gael gwared â chymaint o'r straen â phosibl a helpu i drefnu pethau.
Wrth gynllunio'r angladd, meddyliwch am hoff a chas bethau'r person, gofynion crefyddol, unrhyw ystyriaethau amgylcheddol, unrhyw gerddoriaeth yr hoffai gael ei chwarae ac ati.
Rydym yn argymell cadw llyfr nodiadau wrth law i nodi pethau wrth iddynt ddod atoch chi.
Amlosgiadau uniongyrchol
Mae amlosgiadau uniongyrchol yn digwydd heb i wasanaeth ddigwydd ac maent yn addas ar gyfer y rhai sy'n dymuno talu teyrnged yn eu ffordd eu hunain. Mae'r opsiwn hwn hefyd yn golygu nad oes rhaid i chi deimlo eich bod yn talu am wasanaethau ychwanegol nad ydynt yn teimlo'n briodol.
“Gwasanaeth ardderchog. Tîm gwych. Gofalgar a thosturiol iawn. Roeddwn yn hapus iawn gyda’r gwasanaeth a gawsom.”
J Maverado, adolygiad Google